Cadwyn Mon Report 2011-2017 CYM - page 2

Unigolion
“Un peth dwi wedi
wneud, rhywbeth nes i erioed
freuddwydio, ydi mynd lawr i
Gaerdydd i weld fy merch. Mi es
ar yr awyren o Fali, roedd y staff yn
amyneddgar iawn ac roedd fy merch
yn disgwyl amdanaf y pen arall, cefais
amser bendigedig. Byddaf bendant
yn mynd eto, diolch Cadwyn Môn
am ddangos i mi fod i’n gallu
gwneud hyn.”
“Dwi nawr yn gallu
cysylltu gyda phobl ar y
we, gyrru e-byst, defnyddio
Facebook, gwneud ymchwil a
phrynu nwyddau ar lein. Oherwydd
hyn dwi’n poeni llai am fy nghyflwr
iechyd, ni fyddaf yn teimlo’n unig
ac wedi cael fy ngadael allan
pan fydd fy iechyd yn dirywio
pellach.”
Dwi wedi gwneud
ffrindiau newydd yn
y grŵp arlunio, os dwi’n
methu mynd un wythnos
maen nhw’n ffonio i weld
os dwi’n iawn. Mae hyn yn
gysur mawr i mi, nid wyf ar
ben fy hunan bellach.”
“Mae’n hunan hyder
wedi gwella’n aruthrol ac o
ganlyniad i fynychu dosbarth
ymarfer corf, mae fy iechyd
a chryfder wedi gwella hefyd.
Dwi’n bwriadu cerdded a mynd
allan llawer mwy nawr, diolch
i Cadwyn Môn.”
“Dwi wedi ail
gychwyn chwarae
badminton a thennis
bwrdd a dysgu coginio trwy
fynychu Age Well Amlwch,
dwi hefyd wedi gwneud
ffrindiau da.”
1 3,4,5,6,7,8,9,10,11,12,...18
Powered by FlippingBook