Cadwyn Mon Report 2011-2017 CYM - page 5

Mae’r
wasanaeth
wedi
llwyddo
tu
hwnt i unrhyw
ddisgwyliadau.
2
Ar ddiwedd cyfnod olaf prosiect Cadwyn Môn mae’n gyfle
amserol i edrych yn ôl ar lwyddiannau’r gwasanaeth cyfeillio.
Mae’r tîm wedi gweld newidiadau mawr, rhai cyffroes,
manteisiol ac ar adegau, rhai trist iawn dros y 5 mlynedd olaf,
ond trwy’r cyfnod mae’r gwasanaeth wedi llwyddo tu hwnt i
unrhyw ddisgwyliadau.
Yn o gystal â darparu gwasanaeth i agos 700 o unigolion
mae 89 o wirfoddolwyr wedi eu recriwtio i gynnig
cefnogaeth, nid yn unig trwy Cadwyn Môn, ond
yn eu cymunedau hefyd. Mae anghenion y
gymuned hefyd wedi newid gyda’r galw
amwasanaeth i bobl gyda dementia
cynnar yn cynyddu pob wythnos. Nid
oedd gwasanaeth i bobl sydd yn byw
gyda dementia yn rhan o’r prosiect
cychwynnol, ond erbyn hyn mae’r galw
yn un na all ei gyrraedd. Yn ystod y
cyfnod cyfeillio (10 i 15 wythnos) mae
cyfle i unigolion fagu hyder, fwynhau
cwmni eraill a chael gwybodaeth am
wasanaethau eraill all roi cymorth pellach
iddynt.
Mae’r math o gymorth sydd ar gael gan y
gwirfoddolwyr yn cynnwys amrywiaeth helaeth;
cwmni am y prynhawn, help i fynd ar y bws,
cymryd rhan mewn gweithgaredd neu fynychu clwb a
llawer mwy, yn wir unrhyw beth mae’r unigolyn yn ddewis,
o fewn rheswm. Mae ‘Clwb Ffrindiau Cadwyn Môn’ wedi cyfarfod yn fisol trwy’r
cyfnod ac mae’n achubiaeth i lawer trwy roi’r cyfle iddynt gadw cysylltiad gyda’r
tîm a chael hwyl yr run pryd. Mae hefyd yn gyfle i’r tîm gadw llygaid allan am
unrhyw fater sy’n codi.
Mae gweithgareddau eraill yn rhan o Cadwyn Môn fel yr Eisteddfod Ddwyieithog
Pobl Hŷn sydd erbyn hyn yn ei nawfed flwyddyn a hefyd prosiect cyfranogi
newydd a gynhaliwyd Gwanwyn 2016. Roedd y prosiect ‘Ryffians’ yn cael ei
ariannu trwy Theatr Genedlaethol Cymru ac yn cael ei arwain gan Theatr Fran
Wen. Peilot oedd hwn ble roedd dwy genhedlaeth yn dod at ei gilydd i greu darn
o gelf a gafodd ei arddangos yn Oriel Môn. Pwrpas y peilot oedd gweld sut mae
pobl o wahanol oedran yn cyfathrebu a gweithio gyda’i gilydd, roedd y broses
llawn mor bwysig â’r gwaith celf. Roedd pawb wedi mwynhau ac yn tybio for y
prosiect yn un llwyddiannus dros ben.
Mae hyfforddiant wedi bod yn rhan bwysig o’r cynllun gydag amryw o gyfleoedd
wedi cymryd lle yn ystod y cyfnod, er enghraifft, sesiwn ‘Ffrindiau Dementia’ ac yn
dilyn hyn hyfforddiant ‘Pencampwyr Dementia’ er mwyn annog cymunedau i fod
yn gyfeillgar at ddementia.
Edrych ymlaen at y dyfodol, diolch i ymrwymiad ffyddlon y gwirfoddolwyr,
mae ‘Clwb Cadwyn Môn Club’ wedi cael ei ffurfioli, gyda chyfansoddiad wedi ei
fabwysiadu Ionawr 2017. Er bod y cynllun swyddogol yn dod i ben diwedd Mawrth
2017 rydym yn falch iawn bydd cyfeillio yn parhau trwy’r clwb ymhell i’r dyfodol.
Crynodeb
1,2,3,4 6,7,8,9,10,11,12,13,14,15,...18
Powered by FlippingBook