Cadwyn Mon Report 2011-2017 CYM - page 8

5
Amcanion gwerthuso
Prifysgol Bangor, o dan arweiniad Dr Gill Windle a Dr
Jennifer Roberts, oedd yn gyfrifol am y gwerthusiad
annibynnol ac mae eu darganfyddiadau wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad terfynol yma.
Amcanion y gwerthusiad oedd archwilio; a) i
ba raddau wnaeth gwasanaeth Cadwyn Môn
effeithio lles, unigrwydd ac unigedd a chyfranogiad
unigolyn mewn gweithgareddau, ac; b) profiadau
gwirfoddolwyr wrth ddarparu cyfeillio.
Dulliau
Recriwtwyd gwirfoddolwyr gan y Cydlynwyr i fentora
a chefnogi unigolion. Trwy gydol y cynllun dilynwyd
polisïau a gweithdrefnau Age Cymru Gwynedd
a Môn. Cydnabyddir anghenion hyfforddiant a
sefydlwyd sustemau monitro a goruchwyliaeth er
mwyn cefnogi’r gwirfoddolwyr. Cynhaliwyd nifer o
sesiynau hyfforddiant dros y cyfnod e.e. hunanhyder,
cyfrinachedd, hydwythdedd, cam-drin oedolion,
trafod a dylanwadu a thechnegau cymhelliant.
Y gwasanaeth
Mae’r cynllun yn agored i bawb dros 50 oed ar yr
Ynys sydd mewn perygl o unigrwydd ac unigedd
cymdeithasol. Posib fod y risg yn gwaethygu trwy
brofiad o anabledd corfforol, problemau iechyd
meddwl neu newidiadau arwyddocaol yn eu
sefyllfa e.e. profedigaeth neu ymddeoliad. Creuwyd
sustem swyddogol sydd yn galluogi mudiadau ac
asiantaethau sy’n debygol o ddod ar draws pobl hŷn
allu cyfeirio mewn i Cadwyn Môn. Yn ychwanegol
derbynnir cyfeiriadau hefyd gan ffrindiau, aelodau o’r
teulu ac unigolion eu hunain.
Gweithio gyda Age Well a chanolfannau eraill, mae
pobl hŷn yn gallu cael mynediad i gefnogaeth a
gwybodaeth addas i alluogi hwy i oresgyn rhwystrau
seicolegol ac ymarferol. Mae hyn yn rhoi’r grym
iddynt fod yn aelod gwerthfawr yn eu cymunedau.
Mae’r gwirfoddolwr yn cynnig cyfeillgarwch,
cefnogaeth ymarferol a seicolegol er mwyn galluogi’r
unigolyn i fod yn fwy bywiog.
Os nad yw unigolion yn cyrraedd y meini prawf neu
ddim angen gwasanaeth llawn Cadwyn Môn o 10-15
wythnos, cyfeirir nhw yn syth i’r clwb.
Fframwaith gwerthuso
Daeth adran ymchwil y Brifysgol a thîm Cadwyn
Môn at ei gilydd er mwyn rhagweld canlyniadau’r
cynllun a chynllunio cyfeiriaduron mesurau addas.
Rôl y Cydlynwyr oedd gweinyddu’r ddau fesur, un ar
y man cychwyn ac un 8 wythnos i mewn (dilyniant).
Yn ychwanegol i’r mesurau cwblhawyd ffurflen
ymweliad cartref yn y cyfarfod cyntaf gyda’r unigolyn
i gynnwys gwybodaeth, cyflwr iechyd, newidiadau
bywyd, pa fath o gefnogaeth oedd angen a chario
allan asesiad risg.
Mae pob ffurflen yn ddienw, dim ond rhif sydd yn
dangos, (gyda’r manylion personol yn cael eu cadw’n
ddiogel ar sustem ganolog ar y we) cyn cael eu gyrru
i’r Brifysgol i’w dadansoddi gan y tîm ymchwil.
Cyfeiriadau
Erbyn diwedd Hydref 2016 roedd 686 o unigolion
wedi eu cyfeirio at Cadwyn Môn gyda 535 o’r rhain
wedi derbyn gwasanaeth. Roedd 116 yn anaddas ar
gyfer y gwasanaeth ac wedi derbyn gwybodaeth neu
gael eu cyfeirio ymlaen i un o bartneriaid Cadwyn
Môn. Cyfeiriwyd 114 yn syth i glwb Cadwyn Môn.
Y dull cyfeirio mwyaf poblogaidd yw trwy aelodau
teulu ac mae hunan gyfeirio yn digwydd yn aml
hefyd. Cyfeirir unigolion yn aml trwy wasanaethau
fel tîm iechyd meddwl, gwasanaethau cymdeithasol,
adran ffisiotherapi a clinic cof.
Monitio a gwerthuso
1,2,3,4,5,6,7 9,10,11,12,13,14,15,16,17,...18
Powered by FlippingBook