Cadwyn Mon Report 2011-2017 CYM - page 11

8
Ffigwr 3: Cysylltiadau cymdeithasol
Unigrwydd
Mae mesur Unigrwydd de Jong Gierveld a Van
Tilburgh yn dangos fod y rhan fwyaf o unigolion
85.4% yn datgan eu bod yn unig cyn cychwyn y
gwasanaeth cyfeillio, a 27% yn mesur unig ddifrifol.
Mae newid arwyddocaol rhwng y man cychwyn
a’r dilyniant gyda gostyngiad o 39.33%mewn
unigrwydd yn cael ei ddatgan gan unigolion.
Unigedd
Defnyddiwyd Graddfa Rhwydwaith Cymdeithasol
Lubben ar gyfer mesur lefel rhwydwaith a
chefnogaeth sydd ar gael i unigolion. Mae’r sgôr ar
y man cychwyn yn isel iawn (10.34). Defnyddiwyd
y torbwynt clinigol o 12 i adnabod unigolion mewn
perygl o arwahanrwydd eithaf (gor dibennol ar un
person neu heb unrhyw gefnogaeth o gwbl). Ar draws
y mesur roedd 62.1% gyda sgôr o 12, ac fel canlyniad
yn cael ei gysidro mewn perygl o arwahanrwydd
eithaf. Ar ddiwedd y cyfnod cyfeillio mae newid
sylweddol rhwng y ddau fesur ar gyfer cyswllt gyda
theulu a ffrindiau.
Cysylltiadau
cymdeithasol
Ar ddiwedd y cyfnod gofynnwyd i unigolion
ateb nifer o gwestiynau ynghylch a pa raddau
wnaeth gwasanaeth cyfeillio effeithio ar eu bywyd
cymdeithasol:
Ie/Do Na
Ydych yn teimlo fod chi’n
gweld mwy o bobl?
100%
Ydych wedi gwneud
ffrindiau newydd?
92.4%
Ydych chi’n gwneud
gweithgareddau
newydd?
64.7%
Ydych chi wedi ail
gychwyn
gweithgareddau?
42.9%
Ydych chi’n mynychu
clwb/dosbarth/grŵp
cymdeithasol newydd?
66.7%
Ydych chi’n teimlo’n
fwy hyderus?
96.6%
1...,2,3,4,5,6,7,8,9,10 12,13,14,15,16,17,18
Powered by FlippingBook