Cadwyn Mon Report 2011-2017 CYM - page 6

3
Cefndir
Roedd Ymchwiliad Iechyd Meddwl a Lles Hwyrach Mewn Bywyd (Age UK 2007) yn cydnabod
for cymryd rhan mewn gweithgaredd ystyriol, cadw’n heini a chael teimlad o bwrpas yn llawn
mor bwysig, ar gyfer iechyd meddwl a lles pobl hŷn, ac ydi iechyd corfforol.
Mewn ymateb, yn Nhachwedd 2011 creuwyd Cadwyn Môn, cynllun cyfeillio pummlynedd
wedi ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr gyda Age Cymru a Môn yn arwain. Pwrpas y cynllun
yw galluogi pobl hŷn Ynys Môn i fyw bywyd llawnach trwy gysylltu hwy gyda gweithgareddau
cymunedol a chanolfannau fel Age Well.
Mae’r cynllun yn targedu pobl dros 50 oed sydd mewn perygl o ddioddef unigrwydd ac unigedd
cymdeithasol. Hyfforddwyd gwirfoddolwyr i gynnig cefnogaeth un i un trwy’r cynllun dros
gyfnod o 10-15 wythnos. Rôl y gwirfoddolwr yn y man cychwynnol yw ymweld â’r unigolyn yn
eu cartref er mwyn magu hyder a chefnogaeth ac mewn amser eu cyflwyno i weithgareddau
cymunedol er mwyn meithrin hunan hyder ac annibyniaeth. Mae’r gweithgareddau yma’n
cynnwys grwpiau cefnogol eraill, clybiau i bobl dros 50 oed, canolfannau fel Age Well a llawer
mwy.
1,2,3,4,5 7,8,9,10,11,12,13,14,15,16,...18
Powered by FlippingBook