13
Tra mae’r gwasanaeth presennol yn dod i ben diwedd
Mawrth 2017, bydd cyfeillio yn parhau ar yr Ynys. Mae
Clwb Cadwyn Môn wedi ei ffurfioli ac mae nawr yn
annibynnol, bydd yn parhau i gynnig cyfeillio trwy’r
cyfarfodydd misol. Yn ystod estyniad 5 mis i’r cynllun
(o Hydref 2016), mae Cadwyn Môn wedi buddsoddi
mewn datblygu cymunedau trwy gefnogi grwpiau
presennol, canolfannau a mudiadau sydd yn cefnogi
pobl i leihau unigrwydd ac unigedd. Mae hyn wedi
ei gyflawni drwy ariannu gweithgareddau arbennig,
sesiynau digidol, gweithdai a gweithgareddau,
manteision fydd yn mynd ymmhell ar ôl y cyfnod
presennol.
Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, diolch i’r fyddin o
wirfoddolwyr a staff, mae Cadwyn Môn wedi meithrin
amgylchedd cymdeithasol gofalgar a chefnogol,
etifeddiaeth fydd yn cyrraedd ymhell i’r dyfodol.
Clwb Cadwyn Môn:
clwbcadwynmon.co.uk
Y dyfodol