11
Mae’r cyfweliadau gydag unigolion yn cefnogi’r
dystiolaeth amwelliannau mewn bodlonrwydd
bywyd , rhwydweithiau cymdeithasol a lleihad mewn
unigrwydd a ddaeth yn amlwg yn y mesur dilyniant,
gyda llawer yn adrodd canlyniadau positif
fel canlyniad i fod yn rhan o’r cynllun.
Themâu blaenllaw yw cyfarfod pobl
newydd, cynnydd mewn hunan
hyder, mwynhad, gwell rhagolwg
ar fywyd a chymryd rhan mewn
gweithgareddau a grwpiau
newydd.
Mae’r canlyniadau hefyd yn
awgrymu fod y gofynion a
datganwyd gan yr unigolion
wedi eu cyflawni. Mae’r data
meintoli ac ansoddol yn dangos
fod ar ôl cymryd rhan yn Cadwyn
Môn, fod unigolion yn gweld mwy o
bobl, yn mynd allan fwy wedi ymuno
a chlybiau ac wedi gwneud ffrindiau
newydd.
Mae cyfweliadau gyda gwirfoddolwyr Cadwyn Môn
yn dadlennu fod y gwasanaeth o werth nid yn
unig i’r unigolion ond i’r gwirfoddolwyr hefyd. Fel
yr unigolion, mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn datgan
eu bod wedi gwella eu hunan hyder yn arbennig
mewn sefyllfaoedd cymdeithasol neu grŵp. Mae
gwirfoddolwyr yn mwynhau’r rôl ac i lawer mae
wedi rhoi perspective a gwerthfawrogiad iddynt o
beth sydd ganddynt yn barod ac mor hawdd ydi i
gyfaddawdu fel rydych yn mynd yn hŷn.
Mae dadansoddiad Prifysgol Bangor yn dynodi
fod gan Cadwyn Môn nifer o fanteision pwysig yn
ymwneud a bywydau pobl hŷn, gyda gwelliannau
ar fesurau lles, cysylltiad cymdeithasol a lleihad
mewn unigrwydd fel canlyniad uniongyrchol o’r
gwasanaeth. Gwelliannau hefyd mewn hunan hyder,
annibyniaeth, symudedd, mynediad i wasanaethau a
rhwydweithiau cymdeithasol.
Crynodeb gwerthuso
Mae’r canlyniadau’n dangos fod lleihad sylweddol
yn y mesur unigrwydd (Graddfa Unigrwydd De
Jong Gierveld) a bod gwelliannau sylweddol mewn
lles (Graddfa Bodlonrwydd Mewn Bywyd) rhwng y
mesur man cychwyn a’r dilyniant. Mae’r gostyngiad
yn unigrwydd a gwelliant lles yn cael ei gefnogi
gan y ffaith fod y mwyafrif o unigolion yn teimlo
fod eu hiechyd meddwl wedi gwella oherwydd y
gwasanaeth cyfeillio, ac mae tri chwarter hefyd yn
teimlo fod eu hiechyd corfforol a symudiad wedi
gwella.
Mae dadansoddiad o’r Raddfa Rhwydweithiau
Cymdeithasol Lubben yn arddangos cynnydd
sylweddol yng nghysylltedd cymdeithasol gyda
theulu a ffrindiau. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan
gynnydd yn faint o weithiau mae unigolion yn gadael
y tŷ a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar ôl derbyn
y gwasanaeth. Yn ychwanegol mae 100% o unigolion
yn datgan eu bod yn gweld mwy o bobl ar ôl cymryd
rhan a bod y mwyafrif wedi gwneud ffrindiau
newydd.
Mae’r canlyniadau’n
dangos fod
lleihad
sylweddol
yn y mesur
unigrwydd a bod
gwelliannau sylweddol
mewn lles.