12
Stori John
Cyn peiriannydd gyda’r Swyddfa Bost oedd John
Jenkins, roedd yn teimlo’n unig ac yn druenus ar
ôl i’w wraig farw tair blynedd yn ôl. Hynny yw tan
ddaeth Michael.
“Roeddwn yn dioddef unigedd. Roedd y teimlad yn
erchyll, roeddwn yn cael pwl o banig hefyd. Rwyf yn
berson gwahanol nawr diolch i Cadwyn Môn, rwyf
wedi dod allan o’m nghragen. Dwy wedi fy nghyfyngu
gyda phethau corfforol allaf wneud ond rwyf yn
gryf yn feddyliol unwaith eto. Rwyf yn mynychu
dwi ganolfan Age Well ac wedi dysgu coginio trwy’r
dosbarth ‘coginio i ddynion’ yn Amlwch. Rwyf hefyd
yn cadwmewn cysylltiad gyda Cadwyn Môn trwy’r
clwb cyfeillio misol. Mae cyfarfod Mike wedi gwneud
gwahaniaeth aruthrol i’mmywyd, dwi wedi gwneud
ffrindiau newydd a gallaf fynd i unrhyw le ble o’r
blaen roeddwn yn dueddol o ddal yn ôl.”
Fe wnaeth gwirfoddolwr Michael Bourhill daro
cyfeillgarwch agos gyda John ar ôl darganfod fod
ganddynt ddiddordebau tebyg. Dywedodd Michael
“ Pan wnes i gyfarfod John gyntaf gallwn weld for
sgiliau cymdeithasol ganddo ac fe ddaethom yn
ffrindiau yn sydyn iawn. Aethom I lawer o lefydd
gyda’n gilydd. Mae’r ddau ohonom gyda diddordebau
tebyg; rheilffyrdd, cerddoriaeth ac amgueddfa’u.
Roedd John yn amlwg wedi cael bywyd diddorol
a theimlwn fod cyfnod bywyd arall
diddorol o’i flaen. O fewn
ychydig wythnosau
roedd wedi newid
yn aruthrol.
Stori Minnie
Prif ofalwr ei chwaer oedd Minnie Brimecombe am
dros 30 mlynedd. Pan fu farw hi gyda canser roedd
bywyd Minni wedi ei rwygo’n agored.
Dywedodd Minni “fi oedd prif ofalwr fy chwaer wrth
fod ganddi arthritis rhiwmatoid. Pan fu farw bedair
blynedd yn ol, disgynnodd y gwaelod allan o’m
mywyd - roeddwn hollol ar goll. Nid oeddwn yn
dealt beth oedd wedi fy nharo achos roedd fy
mywyd mor llawn pan oeddwn yn gofalu, a
nawr doedd dim byd. Fe gysylltais â Cadwyn
Môn a daethon i’m gweld. Daeth Lesley
annwyl ac mae hi wedi bod yn achubiaeth
bywyd i mi. Os faswn i heb wneud dim
pryd hynny faswn i ddimwedi para’r fyw.
Cynigiodd Lesley fynd a fi allan unwaith yr
wythnos am 10 wythnos ac ar ôl i’r cyfnod
ddod i ben fe gadwodd mewn cysylltiad. Mae hi
dal i fynd a fi allan o dro i dro neu alw am baned,
rydym yn dod ymlaen mor dda gyda’n gilydd. Dwi
hefyd yn mwynhau cystadlu yn Eisteddfod Pobl Hŷn
Môn ac wedi ennill gwobr gyntaf a tharian amweu,
rhywbeth wnes i erioed freuddwydio am. Heb Lesley
baswn yn y nefoedd bellach. Hyn yw’r unig beth sydd
gen i i edrych ymlaen am - bendith ei chalon. Gas gen
i feddwl be fasa wedi digwydd hebddi. Mae Cadwyn
Môn wedi gwneud fy mywyd yn werth chweil.”
Mae Lesley Haggis wedi gwirfoddoli gydag amryw o
unigolion ers bron i bedair blynedd bellach ond mai’n
cyfri Minnie fel un o’i ffrindiau gorau erbyn hyn.
Dywedodd Lesley “Roeddwn isio gwneud
gwahaniaeth ymmywydau pobl hŷn. Pan wnes i
gyfarfod Minnie roedd hi’n dioddef iselder difrifol
ac yn dal i ddod dros brofedigaeth. Daethom yn
ffrindiau’n syth. Oherwydd ei bod mor unig ac wedi
ei hynysu cymaint roeddwn yn awyddus i gadw’r
cyfeillgarwch i fynd ar ôl i’r cyfnod cyfeillio ddod i ben
a gwneud gwahaniaeth positif i’w bywyd. Nawr does
dim cyfyngiad amser - mae’r ymweliad yn cymryd
faint mae’r ddwy ohonom yn dymuno, mae fel cwrdd
â hen ffrind erbyn hyn.
Pan glywais am Cadwyn Môn roeddwn yn edrych
ymlaen at gychwyn. Hwn yw’r gwaith gwirfoddol
gorau dwi wedi gwneud erioed. Rwyf wrth fy modd,
mae’n rhoi cymaint yn ôl i mi - mae’n gwneud
fy mywyd werth chweil. Mae Cadwyn Môn yn ein
coleddu ac yn edrych ar ôl eu gwirfoddolwyr a
gwneud i ni deimlo o werth.”
Astudiaethau achos